Rhent Canolig
Beth yw rhent canolig?
Mae rhent canolig yn golygu eich bod yn rhentu cartref am bris sydd llai na’r farchnad agored. Mae’r rhent yn llawer is na’r hyn y digwylir i chi ei dalu ar gartref tebyg mewn ardal debyg pe baech yn rhenti oddi wrth landlord preifat.
Gallai rhent canolig fod yn addas i bobl na fyddent yn gymwys am gartrefi rhenti cymdeithasol ac nad ydynt yn gallu fforddio i brynu cartrefi yn gyfan gwbl.
Fel arfer mae cartrefi rhent canolig yn cael eu gosod ar sail Tenantiaeth Ddaliadaeth Fer Aswiriedig gyda chytundeb am gyfnod o 6 mis.


